Posted: Wed, November 22, 2006
Gosod y Safon ar gyfer Technoleg Gwybodaeth Ddwyieithog
gan Meri Huws
Mae byd TG yn datblygu'n ddi baid. Ugain mlynedd yn ôl, ni fyddai'r rhan fwyaf ohonom wedi credu y byddai cyfrifiaduron wedi cael effaith ar gymaint o agweddau ar ein bywydau, o ystyried bod
gwaith swyddfa a llawer iawn o'n gohebiaeth bersonol bellach yn cael ei nodweddu'n drwm gan yr e-bost a'r cyfrifiadur personol - heb sôn am ddylanwad hollgynhwysol y We. Yn union fel y mae'r criw
teipio wedi hen ddiflannu, mae technoleg 'fodern' y dyddiau hyn yn esblygu'n sydyn ac nid yw'n newydd am hir. Mae'n hanfodol bwysig bod Technoleg Gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau a chyfathrebu
dwyieithog yn datblygu ymhellach, a bod unigolion yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn y cartref a'r gweithle.
Roedd 1 Rhagfyr 2004 yn
ddiwrnod hanesyddol i'r iaith Gymraeg. Mewn gwesty ym Mae Caerdydd, lansiodd Microsoft a Bwrdd yr Iaith Gymraeg becynnau rhyngwyneb Iaith Gymraeg ar gyfer Microsoft Windows XP ac Office. Derbyniodd y prosiect, a oedd wedi'i ariannu'n llwyr gan Microsoft,
gyhoeddusrwydd aruthrol ac, o ganlyniad, cawsom geisiadau gan bob math o gyrff am y CD newydd ac i roi'r rhaglenni ar eu rhwydweithiau. Roedd y prosiect 15 mis hwn yn benllanw blynyddoedd lawer
o ddatblygu meddalwedd yn Gymraeg, ac yn gydnabyddiaeth glir gan y cwmni cyfrifiadurol byd-eang o bwysigrwydd yr iaith ei hun. Roedd hefyd yn dangos bod y sector preifat yn cydnabod pwysigrwydd
cynyddol y Gymraeg.
Yna, ganol mis Tachwedd 2006, lansiwyd Agored - fersiwn dwyieithog Saesneg/Cymraeg o'r meddalwedd Open Office. Mae'r prosiect cyfieithu enfawr hwn, wedi'i gyd-ariannu gan y Bwrdd, yn ddatblygiad arall ym myd technoleg iaith Gymraeg sydd
wedi'i groesawu'n frwd.
Er bod Deddf Iaith Gymraeg 1993 yn rhoi dyletswydd yn bennaf ar y sector cyhoeddus i gynnig
gwasanaethau dwyieithog, mae nifer o gwmnïau hefyd yn penderfynu'n wirfoddol defnyddio'r iaith wrth ddelio â chwsmeriaid yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys darparu arwyddion dwyieithog, defnyddio
deunyddiau marchnata dwyieithog, mabwysiadu Polisïau Iaith Gymraeg, a chyflogi staff dwyieithog sy'n gallu darparu gwasanaethau'r cwmni drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae busnesau'n cydnabod bod yr
iaith yn fantais werthu unigryw iddynt wrth farchnata eu cynhyrchion yng Nghymru, a hefyd yn dangos eu hymrwymiad a'u parch at gyfansoddiad ieithyddol y wlad. Mae dros hanner miliwn o siaradwyr
Cymraeg yng Nghymru ac, fel defnyddwyr, maen nhw'n wirioneddol gwerthfawrogi'r defnydd a wneir o'r Gymraeg gan gwmnïau preifat.
Mae Uned Sector Preifat Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn helpu busnesau i ddatblygu eu defnydd o'r
Gymraeg. Mae ei gwasanaethau'n cynnwys:
- Cyngor a chymorth ymarferol gan Swyddog Sector Preifat
- Grantiau a chyngor ar ddatblygu arwyddion dwyieithog a deunyddiau marchnata dwyieithog
- Gwasanaeth cyfieithu di-dâl hyd at 30 o eiriau
- Cyngor ar sut i ddatblygu Polisi Iaith Gymraeg ar gyfer y cwmni
- Cymorth ar faterion fel recriwtio staff sy'n siarad Cymraeg ac ar ddatblygu ymwybyddiaeth o ddwyieithrwydd fel elfen o ofal cwsmer
Y nod yn y pen draw yw hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn y sector preifat a helpu cwmnïau i gynyddu eu defnydd presennol o'r iaith. Mae amryw o gwmnïau eisoes wedi cofleidio'r cysyniad o
ddwyieithrwydd drwy fabwysiadu arwyddion neu ddeunyddiau marchnata dwyieithog, ond mae Bwrdd yr Iaith hefyd yn gweithio â chwmnïau i gynyddu eu capasiti i ddarparu gwasanaethau
dwyieithog.
Mae TG yn hollbwysig yn y cyswllt hwn. Mae Grant Busnes Bwrdd yr Iaith Gymraeg eisoes
wedi'i ddefnyddio gan nifer o fusnesau i ddatblygu gwefannau dwyieithog ac mae'r Bwrdd wedi rhoi
canllawiau a chymorth ar sut i ddatblygu a chreu'r gwefannau hyn. Mae'r canllawiau hyn wedi eu hymgorffori yn ein cyhoeddiad diweddar, 'Canllawiau a Safonau Meddalwedd Dwyieithog'. Mae hon yn
ddogfen ganllawiau sy'n rhoi cyngor manwl a thechnegol ar sut i greu rhaglenni meddalwedd dwyieithog. Ein nod yw nid yn unig cynyddu presenoldeb gweledol yr iaith Gymraeg ar y We, ond hefyd
datblygu meddalwedd a fydd yn hwyluso darparu gwasanaethau dwyieithog a'r defnydd o'r iaith yn y gweithle ac yn ein bywydau beunyddiol.
Mae Pecyn Rhyngwyneb Iaith Microsoft yn chwarae rôl bwysig yn y cyswllt hwn gan ei fod yn caniatáu i unigolion a chwmnïau ddefnyddio eu cyfrifiaduron drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel un o'r prif
leoleiddiadau yn Gymraeg hyd yma, mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle di-dâl i ddefnyddwyr ddefnyddio'r Pecynnau Rhyngwyneb Iaith Gymraeg gyda Microsoft Office 2003 a Windows XP. Yn syml, os
byddwch yn defnyddio'r rhaglenni hyn, o fewn ychydig funudau bydd eich dewislenni, blychau deialog - eich prif brofiad ar-y-sgrîn - yn Gymraeg. Gan fod cymaint ohonom eisoes yn gyfarwydd â
chynhyrchion Microsoft, mae'n eithriadol hawdd dod i arfer â'r peth. Mae'r cyfieithu wedi elwa o lygad barcud rhai o'r arbenigwyr cyfieithu, ieithyddol a TG gorau yng Nghymru, a hyd yn oed wedi datrys y
broblem o roi to bach ar 'w' ac 'y'. Os hoffech ddefnyddio'r meddalwedd, ewch i www.welsh-language-board.org.uk i lawrlwytho'r meddalwedd yn rhad ac am ddim, neu i archebu CD sydd hefyd yn ddi-dâl.
Bydd defnyddio'r Gymraeg mewn busnes, a datblygu TG ddwyieithog, yn un o'r prif destunau trafod yn nigwyddiad TGCymru nesaf rhanbarth Gogledd Cymru yng Nghanolfan Technium Cast ar 30
Tachwedd 2006. Os ydych eisiau mynychu'r digwyddiad di-dâl hwn, itwales.com/997763.htm.
|