Gwasanaethau ITWales
Croeso i dudalen Gwasanaethau ITWales. Yma gallwch gael gafael ar wybodaeth am ein gwasanaethau â gwerth ychwanegol, sydd wedi'u cynllunio i fod o fudd i fusnesau yng Nghymru trwy wella
cysylltiadau rhwng diwydiant ac Addysg Uwch.
Mae ein gwasanaethau'n cynnwys y canlynol:
Mae Clwb Busnes ITWales yn rhoi llwyfan i fusnesau Cymru rwydweithio'n rheolaidd trwy gyfrwng amrywiaeth o ddigwyddiadau amserol. Mae'r digwyddiadau hyn yn addysgu cyflogwyr a gweithwyr
ynghylch y defnydd strategol ac ymarferol y gellir ei wneud o dechnoleg i gynyddu proffidioldeb a rhoi min cystadleuol ar berfformiad busnesau yn economi Cymru ac economïau'r byd. Ni chodir tâl am
ymaelodi â'r clwb, a gall bod yn aelod ohono arwain at lu o fanteision i'ch cwmni.
Os oes gan eich sefydliad brosiect TG y gallai pâr ychwanegol o ddwylo fod o fantais iddo, neu os oes arno angen datblygu meddalwedd er enghraifft, gallai ITWales leoli myfyriwr neu berson
graddedig sydd â'r sgiliau cywir yn eich sefydliad i wneud y gwaith. Rydym yn arbenigo mewn lleoli myfyrwyr neu raddedigion ym maes TG a chyfrifiadureg mewn busnesau yng Nghymru ar gyfer
prosiectau neu ddatblygiadau penodol. Mae ITWales mewn partneriaeth â GoWales wedi bod yn rhedeg y cynllun hwn yn llwyddiannus ar hyd a lled Cymru ers 1993.
Drwy ein Prosiectau Ymchwil a Datblygu, gallwn eich cynorthwyo i ymchwilio i syniadau arloesol ar gyfer cynnyrch neu brosesau nad oes gennych yr amser, y gweithwyr na'r arian efallai i'w datblygu o
fewn eich busnes. Gall prosiectau o'r fath gynnwys gwaith llunio manylebau a phrototeipiau, gwerthuso, cynhyrchu meddalwedd, a chynnal astudiaethau dichonolrwydd ag elfennau ymarferol. Caiff y
prosiectau dan sylw eu cyflawni gan fyfyrwyr sydd ym mlwyddyn olaf eu cwrs gradd neu sy'n dilyn cwrs MSc, dan oruchwyliaeth arbenigol.
Mae cyfres o gyrsiau ar-lein wedi'i datblygu i gyd-fynd â'r digwyddiadau a drefnir gan Glwb Busnes ITWales. Mae'r cyrsiau yn eich galluogi i astudio pryd bynnag y gallwch a ble bynnag yr ydych, ac
maent yn rhad ac am ddim i aelodau'r Clwb Busnes.
|